2012 Rhif 1261 (Cy. 156)

 Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) 2012

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefydliad, swyddogaethau, cyfansoddiad ac aelodaeth o Bwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (“y pwyllgor”) gan gynnwys ei weithdrefnau a’i drefniadau gweinyddol. 

Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer sefydlu’r pwyllgor ac arfer swyddogaethau gan y pwyllgor.  

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau hyn yn gwneud darpariaeth ar gyfer -

(a)     cyfansoddiad ac aelodaeth y pwyllgor (rheoliad 5);

(b)     penodi cadeirydd ac is-gadeirydd i’r pwyllgor (rheoliad 6);

(c)     gofynion cymhwystra i aelodau o’r cyd-bwyllgor (rheoliad 7 a’r Atodlen); a

(d)     dal swyddi, terfynu penodiadau ac atal y cadeirydd a’r is-gadeirydd o’r pwyllgor (rheoliadau 8 i 10).

Mae Rhan 4 yn cynnwys darpariaethau mewn perthynas â chyfarfodydd a thrafodion y pwyllgor gan gynnwys pwerau’r is-gadeirydd (rheoliadau 11 a 12).

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud asesiadau effaith rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, lluniwyd asesiad effaith rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi gan yr Adran Gyllid, Yr Adran  Iechyd, Gwasanaethau Cymdeithasol a Phlant, Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

          


2012 Rhif 1261 (Cy. 156)

 Y GWASANAETH IECHYD GWLADOL, CYMRU

Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) 2012

Gwnaed                                      8 Mai 2012

 Gosodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru      11 Mai  2012

Yn dod i rym                        1 Mehefin  2012

Mae Gweinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 19(1), 203(9) a (10) a pharagraff 4(1)(f) o Atodlen 3 i  Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006([1]) yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

RHAN 1

Cyflwyniad

Enwi  a chychwyn 

1. Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Cymru) 2012 a deuant i rym ar 1 Mehefin 2012.

Dehongli 

2. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “aelod” (“member”) yw aelod o'r pwyllgor fel a nodir yn rheoliad 5;

ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” (“Local Health Board”) yw Bwrdd Iechyd Lleol a sefydlwyd yn unol ag adran 11(2) o'r Ddeddf([2]);

ystyr “corff gwasanaeth iechyd” (“health service body”) yw Awdurdod Iechyd Arbennig; Awdurdod Iechyd Strategol;  Bwrdd Iechyd Lleol; Ymddiriedolaeth GIG; Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG neu Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol;  

ystyr “cydwasanaethau” (“shared services”) yw gwasanaethau gweinyddol, proffesiynol a thechnegol a ddarperir i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru;      

ystyr “cyfarwyddwr gweithredol” (“executive director”) yw, yn unol â pharagraff 3 o Atodlen 3 i’r Ddeddf, cyfarwyddwr sy’n gyflogai i’r Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol;

ystyr “cynrychiolydd enwebedig” (“nominated representative”) yw, mewn perthynas â phrif swyddog Bwrdd Iechyd Lleol, swyddog-aelod o'i Fwrdd Iechyd Lleol ac, mewn perthynas â phrif swyddog Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol, cyfarwyddwr gweithredol o'i  Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol;  

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2006;

ystyr “prif swyddogion” (“chief officers”) yw prif swyddog pob Bwrdd Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol;

ystyr “y pwyllgor” (“the committee”) yw Pwyllgor Cydwasanaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre a sefydlwyd gan y Rheoliadau hyn; 

ystyr “swyddog-aelod” (“officer member”) yw aelod o Fwrdd Iechyd Lleol sy'n dal unrhyw swydd a nodir yn rheoliad 3(2) o Reoliadau  Byrddau Iechyd Lleol (Cyfansoddiad, Aelodaeth a Gweithdrefnau) (Cymru) 2009;

ystyr “Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol” (“National Health Service Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol a sefydlwyd yn unol ag adran 18(1) o'r Ddeddf([3]);

ystyr “Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre” (“Velindre National Health Service Trust”) yw Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre a sefydlwyd gan Orchymyn Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre (Sefydlu) 1993([4]).

 

RHAN 2

Sefydlu’r pwyllgor a’i swyddogaethau

Sefydlu'r pwyllgor

3. Bydd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre yn sefydlu'r pwyllgor.

Swyddogaethau'r pwyllgor

4. Mae'r pwyllgor yn gyfrifol am arfer swyddogaethau Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre mewn perthynas â chydwasanaethau, gan gynnwys pennu polisi a strategaeth a rheoli a darparu cydwasanaethau i Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau Gwasanaeth Iechyd Gwladol.

 

RHAN 3

Aelodaeth y pwyllgor

Aelodaeth y pwyllgor

5.—(1) Dyma aelodau'r pwyllgor—

(a)     cadeirydd;

(b)     prif swyddogion neu eu cynrychiolwyr enwebedig; a 

(c)     y person sydd wedi ei ddynodi’n swyddog atebol am gydwasanaethau.

(2) At ddibenion rheoliad 5(1)(c), y person sydd wedi ei ddynodi’n swyddog atebol am gydwasanaethau yw’r person sydd wedi ei ddynodi’n swyddog atebol am gydwasanaethau gan y person sydd wedi ei ddynodi’n swyddog cyfrifyddu ychwanegol, ac sy’n gyfrifol am y GIG yng Nghymru, yn unol ag adran 133(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006([5]).

(3) Pan fo prif swyddog yn bwriadu enwebu cynrychiolydd at ddibenion rheoliad 5(1)(b), rhaid i'r enwebiad fod yn ysgrifenedig ac wedi ei gyfeirio at gadeirydd y pwyllgor a rhaid iddo bennu p'un a yw'r enwebiad am gyfnod penodol o amser ai peidio.     

 

Penodi'r cadeirydd a'r is-gadeirydd

6.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraff (2), penodir cadeirydd y pwyllgor gan y pwyllgor.

(2) Penodir cadeirydd cyntaf y pwyllgor gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre am gyfnod o chwe mis.

(3) Rhaid i'r pwyllgor benodi is-gadeirydd i'r pwyllgor o blith y prif swyddogion neu eu cynrychiolwyr enwebedig.

(4) Pan fo'r pwyllgor yn penodi cadeirydd ac is-gadeirydd i'r pwyllgor yn unol â pharagraffau (1) a (3), rhaid i'r penodiadau fod yn ddarostyngedig i reolau sefydlog sy'n ymwneud â'r pwyllgor ac, mewn perthynas â phenodiadau a wneir yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r pwyllgor fodloni ei hun bod gan y person a benodir y sgiliau a’r profiad angenrheidiol i gyflawni dyletswyddau’r cadeirydd. 

(5) Pan fo Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre yn penodi’r cadeirydd yn unol â pharagraff (2), rhaid i’r penodiad fod yn ddarostyngedig i reolau sefydlog Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre. 

Gofynion cymhwystra i aelodau'r pwyllgor

7.—(1) Rhaid i bob aelod gyflawni'r gofynion cymhwystra yn yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn a rhaid iddo barhau i gyflawni'r gofynion tra bo'r aelod hwnnw yn dal ei swydd.

(2) Ni chaiff prif swyddogion ond dal swydd ar y pwyllgor ar yr amod eu bod yn parhau i ddal eu swyddi fel prif swyddog i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu Fwrdd Iechyd Lleol.

(3) Ni chaiff cynrychiolydd enwebedig prif swyddog ond dal swydd ar y pwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i ddal ei swydd, fel y bo'n briodol, fel swyddog-aelod Bwrdd Iechyd Lleol y prif swyddog neu fel cyfarwyddwr gweithredol Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog.     

(4) Ni chaiff unrhyw berson a benodwyd yn unol â rheoliad 6(3) i fod yn is-gadeirydd ond dal swydd is-gadeirydd i'r pwyllgor ar yr amod ei fod yn parhau i ddal ei swydd, fel y bo'n briodol, fel prif swyddog neu fel swyddog-aelod o Fwrdd Iechyd Lleol y prif swyddog neu fel cyfarwyddwr gweithredol o Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol y prif swyddog.  

Dal swydd cadeirydd ac is-gadeirydd

8.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir yn gadeirydd neu'n is-gadeirydd i'r pwyllgor.

(2) Yn ddarostyngedig i'r Rheoliadau hyn, mae cadeirydd neu is-gadeirydd yn dal ac yn gadael ei swydd yn unol â thelerau penodiad y person hwnnw.

(3) Caniateir penodi cadeirydd neu is-gadeirydd am gyfnod nad yw'n hwy na phedair blynedd.

(4) Yn ddarostyngedig i baragraff (5) caiff cadeirydd neu is-gadeirydd pan ddaw ei dymor yn ei swydd i ben  gael ei ailethol yn unol â rheoliad 6(1) neu 6(3) yn y drefn honno.

(5) Ni chaiff person ddal swydd fel cadeirydd  nac is-gadeirydd i'r pwyllgor am gyfanswm o fwy nag wyth mlynedd, ac ni chaiff person gael ei benodi am gyfnodau olynol fel is-gadeirydd neu, yn ddarostyngedig i baragraff (6), fel cadeirydd.

(6) Caiff cadeirydd cyntaf y pwyllgor a benodwyd gan Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre, yn unol â rheoliad 6(2), pan ddaw tymor ei benodiad i ben, gael ei benodi i swydd cadeirydd gan y pwyllgor os yw’n llwyddiannus yn y broses benodi a redir gan y pwyllgor yn unol â’i reolau sefydlog.

(7) Mae cyfeiriadau at ddal swydd is-gadeirydd yn gyfeiriadau at ei benodiad yn is-gadeirydd ac nid at ddal swydd fel aelod o'r pwyllgor. 

Terfynu penodiad cadeirydd neu is-gadeirydd

9.—(1) Caiff y pwyllgor ddiswyddo cadeirydd neu is-gadeirydd os yw'n penderfynu—

(a)     nad yw er lles y pwyllgor; neu

(b)     nad yw'n ffafriol o ran rheoli da ar y pwyllgor,

i'r cadeirydd hwnnw neu'r is-gadeirydd hwnnw barhau i ddal ei swydd.  

(2) Os daw i sylw’r pwyllgor bod cadeirydd neu is-gadeirydd a benodwyd wedi dod yn anghymwys o dan yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn, rhaid i’r pwyllgor ddiswyddo'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd.

(3) Rhaid i gadeirydd neu is-gadeirydd a benodwyd hysbysu'r pwyllgor ar unwaith os yw'r cadeirydd hwnnw neu'r is-gadeirydd hwnnw yn dod yn anghymwys o dan yr Atodlen i'r Rheoliadau hyn.

(4) Os yw cadeirydd neu is-gadeirydd wedi methu â mynd i unrhyw gyfarfod o'r pwyllgor am gyfnod o chwe mis neu ragor, caiff y pwyllgor ddiswyddo'r cadeirydd hwnnw neu'r is-gadeirydd hwnnw oni bai ei bod yn fodlon—

(a)     bod achos rhesymol dros yr absenoldeb; a

(b)     y bydd y cadeirydd neu'r is-gadeirydd  yn gallu mynd i gyfarfodydd y pwyllgor am gyfnod sy'n rhesymol ym marn y pwyllgor.

(5) Caiff cadeirydd neu is-gadeirydd ymddiswyddo drwy hysbysiad ysgrifenedig i'r pwyllgor ond yn ddarostyngedig i delerau penodi'r cadeirydd hwnnw neu'r is-gadeirydd hwnnw.

(6) Mae cyfeiriad yn y rheoliad hwn at ddiswyddo is-gadeirydd neu is-gadeirydd yn ymddiswyddo yn gyfeiriad at ei ddiswyddo o’i benodiad yn is-gadeirydd  neu ato'n ymddiswyddo o'i benodiad yn is-gadeirydd, fel y bo'n briodol, ac nid at ymddiswyddo gan aelod neu ddiswyddo aelod a benodwyd yn is-gadeirydd o'i swydd ar y pwyllgor.

Atal y cadeirydd neu'r is-gadeirydd

10.—(1) Cyn gwneud penderfyniad i ddiswyddo cadeirydd neu is-gadeirydd o dan reoliad 9, caiff y pwyllgor atal y cadeirydd neu'r is-gadeirydd rhag dal y swydd honno am gyfnod sy'n rhesymol ym marn y pwyllgor.

(2) Pan fo cadeirydd neu is-gadeirydd yn cael ei atal yn unol â pharagraff (1), rhaid i’r pwyllgor hysbysu'r cadeirydd hwnnw neu'r is-gadeirydd hwnnw, pob aelod o'r pwyllgor ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre yn ddi-oed ac yn ysgrifenedig gan ddatgan y rhesymau dros ei atal.

(3) Ni chaiff cadeirydd neu is-gadeirydd sy'n cael ei atal o'i swydd o dan baragraff (1) gyflawni swyddogaethau'r cadeirydd neu'r is-gadeirydd.

(4) Mae cyfeiriad yn y rheoliad hwn at atal is-gadeirydd yn gyfeiriad at ei atal o’i benodiad yn is-gadeirydd ac nid at atal yr aelod a benodwyd yn is-gadeirydd o'i swydd ar y pwyllgor.

 

RHAN 4

Cyfarfodydd a thrafodion y pwyllgor

Cyfarfodydd a thrafodion

11.—(1) Rhaid i Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre gytuno ar reolau sefydlog i reoleiddio cyfarfodydd a thrafodion y pwyllgor.

(2) Rhaid i gyfarfodydd a thrafodion y pwyllgor gael eu cynnal yn unol â rheolau sefydlog sy'n ymwneud â'r pwyllgor.

 

Pwerau'r is-gadeirydd

12. Pan fo cadeirydd y pwyllgor—

(a)     wedi marw;

(b)     wedi peidio â dal ei swydd; neu

(c)     yn anabl i gyflawni dyletswyddau'r cadeirydd oherwydd salwch, absenoldeb neu unrhyw achos arall,

caiff yr is-gadeirydd weithredu fel cadeirydd hyd nes y caiff cadeirydd newydd ei benodi neu hyd nes bod y cadeirydd presennol yn ailafael yn nyletswyddau'r cadeirydd, yn ôl y digwydd.

 

 

 

Lesley Griffiths

 

Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, un o Weinidogion Cymru.

 

8 Mai 2012


 

YR ATODLEN 

GOFYNION  CYMHWYSTRA

Rheoliad 7(1)

Gofynion cymhwystra i aelodau

Gofynion cyffredinol

1.—(1) Mae'r Atodlen hon yn gymwys mewn perthynas â chymhwystra personau i’w penodi yn aelodau o'r pwyllgor.

(2) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4), (5), (6) ac (8), nid yw person yn gymwys i gael ei benodi'n aelod o'r pwyllgor os yw'r person hwnnw—

(a)     wedi ei gollfarnu yn ystod y pum mlynedd blaenorol yn y Deyrnas Unedig, Ynysoedd y Sianel neu Ynys Manaw o unrhyw drosedd ac wedi cael dedfryd o garchar (p'un a yw'n ddedfryd ohiriedig ai peidio) am gyfnod o ddim llai na thri mis heb y dewis o dalu dirwy;

(b)     yn destun gorchymyn cyfyngu methdaliad neu orchymyn interim neu wedi gwneud compownd neu drefniant â chredydwyr;

(c)     wedi ei ddiswyddo, heblaw oherwydd bod y swydd wedi ei dileu, o unrhyw gyflogaeth am dâl gyda chorff gwasanaeth iechyd; neu

(d)      wedi cael terfynu ei aelodaeth fel cadeirydd, aelod neu gyfarwyddwr o gorff gwasanaeth iechyd, heblaw oherwydd bod y swydd wedi ei dileu, ymddiswyddiad gwirfoddol, ad-drefnu'r corff gwasanaeth iechyd, neu oherwydd i gyfnod y swydd y penodwyd y person iddi ddod i ben.

(3) At ddibenion paragraff (2)(a), bernir mai'r dyddiad collfarnu fydd y dyddiad y mae'r cyfnod a ganiateir yn gyffredinol ar gyfer gwneud apêl neu gais ynghylch y gollfarn yn dod i ben neu, os gwnaed apêl neu gais o'r fath, y dyddiad pan benderfynir yn derfynol ar yr apêl neu'r cais neu'r dyddiad pan roddir y gorau iddynt neu os metha oherwydd na chaiff yr apêl ei herlyn neu'r cais ei erlyn.

(4) At ddibenion paragraff (2)(c), ni fernir bod person wedi bod mewn cyflogaeth am dâl yn unig oherwydd iddo ddal swydd aelod, aelod cyswllt neu gyfarwyddwr corff gwasanaeth iechyd.

(5) Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(b)—

(a)     os dirymir methdaliad ar y sail na ddylai'r person fod wedi cael ei ddyfarnu'n fethdalwr neu ar y sail bod  dyledion y person wedi cael eu talu'n llawn, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi’n aelod ar ddyddiad y dirymiad;

(b)     os caiff person ei ryddhau o fethdaliad, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi’n aelod ar ddyddiad y rhyddhau;

(c)     os telir dyledion person yn llawn ac yntau wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi’n aelod ar y dyddiad y talwyd y dyledion hynny'n llawn; a

(d)     os bydd person wedi gwneud compownd neu drefniant gyda'i gredydwyr, bydd y person hwnnw'n gymwys i gael ei benodi’n aelod pan ddaw pum mlynedd i ben o'r dyddiad pan gyflawnwyd telerau'r weithred gompowndio neu drefniant.

(6)  Yn ddarostyngedig i baragraff (7), pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(c), caiff y person hwnnw, wedi i ddwy flynedd ar ôl dyddiad y diswyddo ddod i ben, wneud cais ysgrifenedig i Weinidogion Cymru i ddileu'r anghymwystra, a chaiff Gweinidogion Cymru gyfarwyddo y bydd yr anghymhwystra hwnnw yn dod i ben.

(7)  Pan fo Gweinidogion Cymru yn gwrthod cais i ddileu anghymwystra, ni chaiff y person hwnnw wneud cais pellach hyd nes i ddwy flynedd ddod i ben gan ddechrau â dyddiad y cais, a bydd y paragraff hwn yn gymwys i unrhyw gais wedyn.

(8) Pan fo person yn anghymwys oherwydd paragraff (2)(d), daw'r person hwnnw yn gymwys i'w benodi yn aelod pan fydd dwy flynedd o ddyddiad terfyniad yr aelodaeth yn dod i ben neu’r cyfnod hirach y caiff y corff a derfynodd yr aelodaeth ei bennu, ond caiff Gweinidogion Cymru, pan wneir cais iddynt yn ysgrifenedig gan y person hwnnw, leihau cyfnod yr anghymwystra.

 



([1])           2006 p.42.

([2])           Sefydlwyd Bwrdd Addysgu Iechyd Lleol Powys o dan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu) (Cymru) 2003 (O.S. 2003/148 (Cy.18)). Sefydlwyd Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Bwrdd Iechyd Lleol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Betsi Cadwaladr, Bwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Caerdydd a'r Fro, Bwrdd Iechyd Lleol Cwm Taf a Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda o dan Orchymyn Byrddau Iechyd Lleol (Sefydlu a Diddymu) (Cymru) 2009 (O.S. 2009/778 (Cy.66)).

([3])           Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Felindre ac Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn unol â phwerau yn adran 5(1) o Ddeddf y Gwasanaeth Iechyd Gwladol a Gofal yn y Gymuned 1990 (p. 19). Yn sgil cydgrynhoi'r awdurdod galluogi, mae eu Gorchmynion Sefydlu bellach yn cael effaith fel petaent wedi eu gwneud o dan adran 18 o'r Ddeddf. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Iechyd Gwladol Iechyd Cyhoeddus Cymru yn unol ag adran 18(1) o'r Ddeddf.

([4])           O.S. 1993/2838, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2009/2059 (Cy.178) ac O.S. 2012/1262 (Cy.157). 

([5])           2006 p.32. Yn unol ag adran 129(6) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, Ysgrifennydd Parhaol Llywodraeth Cymru yw’r prif swyddog cyfrifyddu dros Weinidogion Cymru. Yn unol ag adran 133(2) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, caiff yr Ysgrifennydd Parhaol ddynodi aelodau eraill o staff Llywodraeth Cymru yn swyddogion cyfrifyddu ychwanegol. Mae Cyfarwyddwr Cyffredinol Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi ei ddynodi’n swyddog cyfrifyddu ychwanegol sy’n gyfrifol am y cyllidebau y mae ganddo gyfrifoldeb gweinyddol amdanynt. Caiff swyddogion cyfrifyddu ychwanegol benodi swyddogion atebol mewn cyrff cyhoeddus penodol, sy’n cynnwys Ymddiriedolaethau GIG. Nodir cyfrifoldebau swyddogion atebol mewn Memorandwm i Swyddogion Atebol.